Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Ionawr 2020
Amser:
08.51 -
11.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5985
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Alun Davies AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Mark Reckless AC David Melding AC (yn lle Nick Ramsay AC) |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Matt Wellington, Llywodraeth Cymru David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru Cian Sion, Canolfan Llywodraethiant Cymru Michael Trickey, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Samantha Williams (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio breifat gan yr ymgynghorydd arbenigol Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Roedd David Melding AC yn bresennol fel dirprwy i Nick Ramsay AC.
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd; Cian Sion, Cynorthwyydd Ymchwil, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd; a Michael Trickey, Uwch Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Rhaglen Dadansoddi Cyllidol Cymru, Prifysgol Caerdydd.
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; a Matthew Wellington, Pennaeth Cyflawni’r Gyllideb, Llywodraeth Cymru.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft a chytunodd i ymateb iddo.
9.1 Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol.